Er mai cwmni teuluol bychan ydym, nid ydym byth yn tanbrisio ein heffaith ar y gymuned leol. Mae ein rôl yn y gymuned yn hanfodol i gynaliadwyedd y busnes.
Rydym ni wedi gwneud tri ymrwymiad,
- I integreiddio arferion busnes cyfrifol ar draws pob agwedd o waith bob dydd.
- I ysbrydoli, arloesi ac arwain drwy wybodaeth a rhannu profiad wrth gyfleu ymrwymiad y busnes i ymarfer busnes cyfrifol.
- I ymdrechu i fod yn rhagweithiol mewn gweithgareddau nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â gweinyddiad masnachol y busnes, gweithgareddau megis rhoi amser / adnoddau, ymrwymiad i ysgolion a’r gymuned - i fod yn gyfrifol o safbwynt cymdeithasol.
Mae Wyau Alltfedw wedi bod erioed ac yn dal i fod, yn synhwyrol o, ac yn atebol i ddiwylliant y gymuned a sail y busnes. Mae’r cyfrifoldebau hyn yn rhai mewnol ac allanol, ac yn gyd-ddibynnol ar y busnes, y gymdeithas a'r amgylchedd. Mae'r rhain yn werthoedd pwysig iawn yng Nghymru.
Bwyd Rhyddid
Mae pum rhyddid i Fwyd Rhyddid:
- Rhyddid rhag newyn
- Rhyddid rhag salwch ac afiechyd
- Rhyddid rhag ofn a gofid
- Rhyddid rhag poen ac anafiadau
- Rhyddid i ymddwyn yn naturiol
Bwyd Rhyddid yw’r unig gynllun yswirio fferm a labelu bwyd yn y DU sy’n ymroddedig i les anifeiliaid fferm.
Mae nod ardystiad Bwyd Rhyddid yn rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr bod y cynllun yn cael ei gefnogi gan yr RSPCA, un o'r elusennau anifeiliaid mwyaf eu parch yn y byd.
Cewch fwy o wybodaeth ar wefan Bwyd Rhyddid yr RSPCA.
Pecynnau Dwyieithog
Cynlluniwyd ein pecynnau yn ddeniadol er mwyn ennyn apêl ddwyieithog.
Milltiroedd Bwyd Isel
Rydym yn gefnogwyr cryf i’r ymgyrch Milltiroedd Bwyd ac yn sicrhau bod ein hwyau mor ffres ag sy'n bosibl pan y’u dosberthir.
Mae Milltiroedd Bwyd yn mesur y pellter y mae bwyd yn teithio o'r cae i'r plât. Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr ymgyrch yma ar dudalennau Farmer's Weekly Food Miles
Ffermio gyda chydwybod
Mae ein harferion ffermio yn seiliedig ar god moesegol eithriadol o uchel. Mae'n bwysig i ni wneud y dewisiadau cywir. Ni ddefnyddir chwynladdwyr na phlaladdwyr.
Rydym ynghlwm wrth nifer o weithgareddau sy’n annog busnesau, awdurdodau lleol a defnyddwyr yng Nghymru i gael gafael ar ac i ddefnyddio cynifer ag sy’n bosibl o fwydydd rhanbarthol lleol wrth baratoi prydau bwyd.
Mae Wyau Alltfedw wedi bod yn hynod weithgar gyda hyrwyddo cynhyrchion bwydydd ‘Brand Cymru', ac yn cymryd pob cyfle i ymgyrchu am labeli bwyd cliriach a manwl gywir.
Rydym yn cyflogi naw aelod o staff. Pob un yn bobl leol. Mae gennym oriau gwaith hyblyg sy’n ffafriol i deuluoedd.
Rydym hefyd wedi annog nifer o ffermydd lleol i arallgyfeirio i gynhyrchu wyau, ac wedi cynorthwyo ym mhob agwedd ar y broses.
Plannu coed brodorol
Ar ôl plannu dros 200 o goed yn 2007, rydym wedi plannu 50 o binwydd yr Alban ar ein fferm. Bydd y coed hyn, sy'n frodorol i’n hardal, yn darparu lloches ar gyfer ein hieir drwy gydol y flwyddyn.
Croeso i ymwelwyr
Rydym yn derbyn llawer o ymweliadau wedi’u trefnu gan Glybiau Ffermwyr Ifanc, myfyrwyr y Brifysgol, Merched Y Wawr, Sefydliad y Merched, ysgolion lleol, a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Nawdd
Rydym yn noddi a chefnogi cymaint o elusennau a sefydliadau ag y gallwn.