Skip to content
English flag English

WYAU BIRCHGROVE,
TRAWSGOED,
ABERYSTWYTH,
SY23 4AT,
WALES.

01974 261286 / 261678

SALES @ BIRCHGROVE-EGGS.CO.UK

Wyau Maes gyda'r Ddraig Gymreig
packing station number UK 0-001

Croeso i Wyau Maes Birchgrove

Mae Wyau Birchgrove yn gwmni teuluol sy'n darparu wyau maes i ystod eang o gwsmeriaid yng Nghymru. Mae'r wyau maes yn cael eu cynhyrchu mewn cefngwlad di-gyffwrdd yng nghanolbarth Cymru, ger Aberystwyth. Mae Wyau Birchgrove wedi bod yn gweithredu ers dros 30 mlynedd.

Logo 'Freedom Food'

Mae'n wyau ni wedi cael eu achredu'n llawn gan gynllun yr RSPCA 'Freedom Food', sy'n sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal ar gyfer y dulliau o gynhyrchu a llesiant. Mae'r ieir i gyd wedi'u gwrth-heintio yn erbyn Salmonela. Mae'r ieir yn cael eu bwydo ar fwyd o ansawdd uchel, sy'n rhydd rhag G.M, a phorfa werdd Cymru. Mae gan Wyau Birchgrove bolisi cyflawn HACCP, ac y mae pob aelod sy'n gysylltiedig gyda'r cynhyrchu a'r dosbarthu o'r wyau maes wedi llwyddo i gael achrediad 100/1539/5.

Ieir Birchgrove

Mae dosbarthiad y wyau maes yn cael ei wasanaethu gan ein faniau dosbarthu ni ein hunain. Mae ein pecynnau manwerthu wyau maes yn cael eu hargraffu'n ddwy-ieithog ac yn cael eu labeli gyda côd bar.

Mae'n cwsmeriaid ni'n cynnwys, arlwywyr, gwestai, bwytai, prifysgolion, cigyddion, cartrefi preswyl ac archfarchnadoedd - meant i gyd yn gwerthfawrogi bwyd o'r ansawdd orau sy'n cael eu ffermio gyda chydwybod.

Gobeithio eich bod wedi mwynhau eich ymweliad á Birchgrove.

Yr Ieir yn Birchgrove

Gallwch gwrdd â ni ym marchnad y Ffermwyr yn Aberystwyth, pob pythefnos. Dewch draw i roi cynnig ar ein wyau ni.



Brig y Dudalen