Wyau Birchgrove

Mae Wyau Maes Alltfedw yn faethlon!

Maen nhw'r hyn a elwir yn faethol gyfoethog, sy'n golygu bod wyau yn darparu cyfran dda o’r maetholion sydd eu hangen mewn cymhariaeth â'r calorïau sydd ynddynt.

Mae bwyta bwydydd sy’n faethlon gyfoethog yn arbennig o bwysig ar gyfer plant yn ogystal ag oedolion hyn oherwydd, er bod eu hanghenion egni yn llai, mae eu hangen am fwydydd maethlon yn dal yn uchel. Mae bwyd sy’n faethlon gyfoethog yn bwysig hefyd i unrhyw un o unrhyw oed sy'n trio colli pwysau.

Birchgrove chickens

Mae wyau yn dda ar gyfer rheoli pwysau gyda dim ond 70 o galorïau mewn wy mawr a thua 5grms o fraster; maent yn ddewis doeth i’r sawl sy’n cadw llygad ar faint o galorïau maen nhw’n eu cymryd.

Mae wyau mor hyblyg ac yn sail i gynifer o ryseitiau - gydag wy yn yr oergell, bydd gennych pryd bob amser!

Maint yr wyau

Mawr iawn 73g +
Mawr 73g - 63g
Canolig 63g - 53g
Bach o dan 53g

Cesglir wyau Alltfedw dwywaith y dydd ac fe’u didolir a'u pacio â llaw. Cânt eu danfon i gwsmeriaid o fewn 2 - 3 diwrnod er mwyn sicrhau bod y cynnyrch mor ffres ag y bo modd.

Birchgrove Eggs recipe card Birchgrove Eggs recipe card

Rydym wedi cynhyrchu cyfres o gardiau rysáit y gellir eu cael ym mhob siop yn ogystal ag ar ein stondin ym Marchnadoedd y Ffermwyr.