Birchgrove Eggs

Busnes teuluol yw Wyau Maes Alltfedw, yn cael ei redeg gan Gwen a Tony Burgess. Mae'r busnes wedi ei sefydlu ers dros ddeng mlynedd ar hugain ac yn mwynhau enw rhagorol am ansawdd y cynnyrch, y gwasanaeth a’r arloesi.

Cynhyrchir yr wyau maes yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru. Rydym wedi ein lleoli yn Nyffryn yr Ystwyth, yn Nhrawsgoed, ger Aberystwyth. Mae Dyffryn yr Ystwyth yn enwog am ei dir pori, ei goetiroedd a'r enwog afon Ystwyth - sy’n rhoi ei henw i Aberystwyth.

Tony and Gwen Burgess

Nid yw'r tir lle cynhyrchir wyau Alltfedw yn cael ei drin gan chwynladdwyr na phlaladdwyr ac felly mae blodau gwyllt yn ffynnu yno bob gwanwyn a haf. Plannodd Gwen a Tony Burgess 200 o goed ychwanegol ar dir eu fferm. Mae defnydd ymarferol i’r rhain heblaw am bwrpas amgylcheddol ac esthetig - maent yn darparu cysgod a lloches ar gyfer yr ieir, sy’n greaduriaid y jyngl yn wreiddiol, wrth gwrs.

Mae ein hwyau yn cael eu hachredu yn llawn dan gynllun Bwyd Rhyddid yr RSPCA, sy'n sicrhau bod y safonau uchaf o ofal a dulliau cynhyrchu yn cael eu cynnal. Brechir pob iâr yn erbyn Salmonellae. Mae'r ieir yn cael eu bwydo ar fwyd o ansawdd uchel a heb fod eu genynnau wedi’u haddasu, a phorfa las Cymru. Mae Wyau Alltfedw yn cyflawni holl bolisïau SALSA a HACCP, ac mae’r holl staff sy'n ymwneud â’r gwaith o gynhyrchu a dosbarthu’r wyau maes wedi cyrraedd achrediad Trin Bwyd 100/1539/5.

Birchgrove Eggs delivery van

Mae Wyau Alltfedw yn cael eu dosbarthu ledled Cymru i’r:

  • Prifysgolion
  • Ysgolion
  • Siopau Pentref
  • Archfarchnadoedd
  • Poptai
  • Cigyddion
  • Caffis, gwestai a thai bwyta
    (gan gynnwys rhai â seren Michelin)
  • Cartrefi preswyl
  • Cyfanwerthwyr

Croesewir ymholiadau gan gyfanwerthwyr.

Birchgrove eggs

Er bod sail ein cwsmeriaid yn amrywiol, mae pob cwsmer yn rhannu’r un meini prawf - maen nhw i gyd angen cynnyrch o ansawdd uchel a gwasanaeth sy'n gyson, yn ddibynadwy, ac a baratowyd yn ôl y safonau uchaf o ran lles/gofal ac ystyriaethau moesegol.

Rydym yn credu ein bod yn cynnig i'n cwsmeriaid cynnyrch o safon uchel am brisiau sydd werth yr arian.

Mae gennym dri theulu arall o ffermwyr, cymdogion i ni yn nyffryn yr Ystwyth, sy’n cynhyrchu Wyau Alltfedw fel y gallwn gael cyflenwad cyson o safon drwy gydol y flwyddyn. Mae ganddynt gytiau ieir newydd sbon wedi eu hadeiladu’n bwrpasol sy’n cadw at safonau Bwyd Rhyddid ac yn dilyn arferion moesegol Alltfedw, gan gynnwys plannu coed i wneud yn iawn am ein hôl-troed carbon.

Gwobrau

Wales The True Taste awardMae Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas a weinyddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn cael eu cynnal eleni am yr 8fed mlynedd ac erbyn hyn maen nhw’n cael eu cydnabod gan y diwydiant bwyd a diod a defnyddwyr fel ei gilydd fel arwydd o gynnyrch o safon arbennig.

Dyma yw ‘Oscars’ y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru ac fe sonnir amdani mewn digwyddiadau sy’n ymwneud â’r diwydiant ar lwyfan cenedlaethol ac mae wedi helpu i sefydlu hygredd brand bwyd o Gymru o fewn y sector manwerthu a chyda defnyddwyr yn gyffredinol.


Roedd 2006 yn flwyddyn lwyddiannus iawn i Wyau Alltfedw. Yn ogystal â chynyddu ein gwerthiant a’n dosbarthiad, rydym wedi derbyn dwy wobr arwyddocaol.

Poultry World logo Poultry World award trophy

Dyfarnwyd inni wobr ‘Ffermwr Dofednod y Flwyddyn’, a noddir gan Poultry World, yn seremoni Gwobrau 2006 y Farmers Weekly a gynhaliwyd yn Grosvenor House Hotel, Park Lane, Llundain ar 30 Tachwedd 2006.

Mae'r gwobrau yn cwmpasu pob un o feysydd amaethyddiaeth ac yn anelu at gydnabod y bobl hynny sy'n dangos dewrder, gweledigaeth, ynghyd â rhagoriaeth dechnegol a busnes wrth ffermio. Roedd yn anrhydedd i ni dderbyn y wobr hon ac rydym yn diolch i'n cwsmeriaid a’r staff am eu cefnogaeth wrth helpu i’n gwneud mor llwyddiannus.


Certficate

Gwobrwywyd ni hefyd yn Gynhyrchwr Bwyd y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes y Flwyddyn Ceredigion, 2006. Roedd hyn yn gydnabyddiaeth am waith da Wyau Alltfedw a’i haelioni i’r ardal leol yn y gorffennol.