Amdanom ni
Mae Wyau Birchgrove wedi'i lleoli yn Nhrawscoed, yn Nyffryn Ystwyth, ger Aberystwyth.
Mae Dyffryn Ystwyth yn enwog am ei ddolydd, coedwigoedd a'r afon Ystwyth enwog - ac felly yr enw Aberystwyth.
Mae tir y fferm sy'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu Wyau Birchgrove heb gael ei drin gan chwynladdwyr nac ychwaith phlaladdwyr sy'n golygu bod yna flodau gwyllt i'w gweld yn tyfu yno pob gwanwyn a haf. Eleni, mae'r perchnogion Gwen a Tony Burgess, wedi plannu 200 o goed ychwanegol ar ei fferm. Mae gan rain ddefnydd ymarferol ar wahan i ddefnydd amgylcheddol ac esthetig - meant yn darparu cysgod a lloches i'r ieir, sydd, wrth gwrs, yn tarddu o anifieiliad jyngl.
Mae wyau Birchgrove i gyd yn wyau maes ac yn aswiriedig o dan gynllun 'Freedom Food,' yr RSPCA.
Mae wyau Birchgrove yn cael eu dosbarthu trwy gydol Cymru, i arlwywyr Prifysgolion, siopau/archfarchnadoedd, caffi's, gwestai a bwytai - (gan gynnwys 'Michelin star) a chartrefi preswyl. Er bod ganddom ni gwsmeriaid sy'n annhebyg iawn i'w gilydd, yr un yw eu gofynion, sef cynhyrch a gwasanaeth o safon, sydd yn gyson, yn ddibynadwy, a sydd wedi'u gynhyrchu i'r safonau uchaf o les a ystyriaethau ethegol.
Yr ydym yn credu ein bod yn cynnig cynhyrch uchel ei safon i'n cwsmeiriaid, am brisiau sy'n darparu wir werth yr arian.
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Brig y Dudalen